Diolch Huw - diddorol 'te?
On 16 Apr 2009, at 13:01, Huw Garan wrote:
> Sous-chef fel arfer yw dirprwy bennaeth y gegin (dirpryw i'r Chef
> de Cuisine
> ('head chef') neu'r 'executive chef', sy'n fwy o relowr (meddyliwch
> am bobl
> fel Gordon Ramsay): rhywun newydd ddechrau neu gymhwyso yw comis -
> ychydig
> yn uwch na KP (porthor cegin) yn nhrefn y gegin ond yn was bach i holl
> gogyddion ei adran.
>
> Mae'r holl system braidd yn gymhleth a dryslyd ond gweler
> http://en.wikipedia.org/wiki/Chef am esboniad gweddol gryno.
>
> Hg
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān Roberts
> Sent: 16 April 2009 09:47
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: chef / cook
>
> Mae'n cymhlethu!
> Mae gen i "head chef" (prif bencogydd?) a "commis chef" (dirprwy
> bencogydd?) erbyn hyn.
>
> Ro'n i'n meddwl bod y "pen" yn gwneud iddo swnio fel "pennaeth" ond
> mae'n
> siwr ei fod yn gweithio ar yr un egwyddor ā "pensaer".
>
> Geith y "cook in charge" fod yn "gogydd ā gofal".
>
> Hwyl
>
> Siān
>
>
> On 15 Apr 2009, at 19:04, Geraint Lovgreen wrote:
>
>> Ystyr y gair Ffrangeg "chef" yn llythrennol ydi "pennaeth" - gallech
>> feddwl amdano fel "chief cook". Felly mae pencogydd yn iawn. Ond
>> tybed
>> a ydi 'uwch-gogydd' yn swnio'n fwy fel 'senior cook' na 'head
>> chef'? I
>> fi mae o'n swnio'n is na phencogydd, beth bynnag!
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Huw Garan"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, April 15, 2009 4:47 PM
>> Subject: Re: chef / cook
>>
>>
>> Dim cweit. Pan adawais i'r brifysgol, es i weithio mewn gwesty yn y
>> dre'
>> fel chef dan hyfforddiant am ddwy flynedd gan ddilyn cwrs
>> hyfforddiant
>> proffesiynol yn y coleg trydyddol lleol. Cogydd yw unrhyw berson
>> sy'n
>> coginio ond mae chef wedi cael neu wrthi'n derbyn hyfforddiant
>> proffesiynol yn y diwydiant arwlyo a lletygarwch, gan gynnwys astudio
>> coginio, theori bwyd, dysgu am gynhwysion a chyfuniadau, diod,
>> cyflwyniad bwyd.
>>
>> Os cogydd yw 'cook', a phen-cogydd yw chef, beth am 'uwch-gogydd'
>> ar gyfer
>> 'head chef'?
>>
>> Hg
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Carolyn Iorwerth
>> Sent: 15 April 2009 14:46
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: ATB: chef / cook
>>
>> Hyd y gwela' - mae 'chef' yn golygu 'pennaeth ar lond cegin o 'cooks'
>> neu 'bennaeth ar adran benodol mewn cegin' sy'n arwain tīm. Mae
>> 'pencogydd' yn awgrymu i fi bod pawb arall yn y gegin yn 'gogyddion'
>> (chefs) hefyd ond dydyn nhw ddim - 'cooks' ydyn nhw ar y cyfan.
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
>> Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
>> Anfonwyd/Sent: 15 Ebrill 2009 13:24
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Re: chef / cook
>>
>> Dwi'n meddwl y baswn i'n rhoi "cogydd" am "cook" a
>> "phencogydd" (heb y
>> cysylltnod ella? fel pencampwr) am "chef". Wedyn mi fase "head chef"
>> yn "brif bencogydd".
>>
>> Geraint
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, April 15, 2009 2:10 PM
>> Subject: chef / cook
>>
>>
>> A oes ffordd hwylus o wahaniaethu rhwng "chef" a "cook"?
>>
>> Mae arna i eisiau dweud bod pedwar cook ac un chef wedi ennill gwobr.
>> "Cogydd" swn i'n
>> ddweud am y ddau yn naturiol.
>>
>> Mae GyrA yn rhoi "pen-cogydd" a "sieff" am "chef" a "cogydd",
>> "cŵc", "cwc" am "cook". Mae hefyd yn rhoi "pen-cogydd" am "cook
>> in charge", sef beth yw un o 'nghwcs i.
>>
>> Dw i ddim yn hoff o "sieff" ond ydi "pen-cogydd" yn swnio fel "head
>> chef"?
>> Ydi "cwc" yn
>> swnio braidd yn ddilornus erbyn hyn? Mewn ysgolion a chartrefi henoed
>> y mae'r rhain yn gweithio.
>>
>>
>> O diar eto
>>
>> Siān
|