A oes ffordd hwylus o wahaniaethu rhwng "chef" a "cook"?
Mae arna i eisiau dweud bod pedwar cook ac un chef wedi ennill gwobr. "Cogydd" swn i'n
ddweud am y ddau yn naturiol.
Mae GyrA yn rhoi "pen-cogydd" a "sieff" am "chef" a "cogydd", "cŵc", "cwc" am "cook". Mae
hefyd yn rhoi "pen-cogydd" am "cook in charge", sef beth yw un o 'nghwcs i.
Dw i ddim yn hoff o "sieff" ond ydi "pen-cogydd" yn swnio fel "head chef"? Ydi "cwc" yn
swnio braidd yn ddilornus erbyn hyn? Mewn ysgolion a chartrefi henoed y mae'r rhain yn
gweithio.
O diar eto
Siān
|