Dwi'n meddwl y baswn i'n rhoi "cogydd" am "cook" a "phencogydd" (heb y
cysylltnod ella? fel pencampwr) am "chef". Wedyn mi fase "head chef" yn
"brif bencogydd".
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 15, 2009 2:10 PM
Subject: chef / cook
A oes ffordd hwylus o wahaniaethu rhwng "chef" a "cook"?
Mae arna i eisiau dweud bod pedwar cook ac un chef wedi ennill gwobr.
"Cogydd" swn i'n
ddweud am y ddau yn naturiol.
Mae GyrA yn rhoi "pen-cogydd" a "sieff" am "chef" a "cogydd", "cŵc",
"cwc" am "cook". Mae
hefyd yn rhoi "pen-cogydd" am "cook in charge", sef beth yw un o 'nghwcs i.
Dw i ddim yn hoff o "sieff" ond ydi "pen-cogydd" yn swnio fel "head chef"?
Ydi "cwc" yn
swnio braidd yn ddilornus erbyn hyn? Mewn ysgolion a chartrefi henoed y
mae'r rhain yn
gweithio.
O diar eto
Siān
|