Yn bersonol, dwi ddim yn meddwl y byddai hyn (sef "dealltwriaeth" =
"knowledge") yn gwneud y tro - "gwybodaeth" ydi "knowledge" oherwydd mai
"gwybod" ydi "know".
dealltwriaeth = understanding
Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni dderbyn mai "gwybodaeth" a ddefnyddir am
"knowledge" ac "information", yn yr un modd ag y mae'n rhaid i'r Sais
dderbyn mai "know" a ddefnyddir am "gwybod" ac "adnabod", er eu bod yn amlwg
yn ddau gysyniad gwahanol.
Mae "hysbysrwydd" yn tueddu i olygu gwybodaeth a rennir - "hysbysu" =
"inform". Felly gellid defnyddio "hysbysrwydd" am "information" hefyd. Ond
byddai'n dda pe gallen ni dderbyn "hysbysrwydd" am "intelligence", gan nad
ydi'r math hwnnw o wybodaeth ddim bob amser yn gudd.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, May 07, 2006 2:49 AM
Subject: Re: Information/intelligence
Rwyf wedi dal swyddi o'r enw 'information officer' ac 'intelligence
analyst' yn eu tro, ac mae 'gwybodaeth' a 'hysbysrwydd' yn
swnio'n eitha teg i mi. (Gellid defnyddio cudd-wybodaeth hefyd
am 'intelligence').
Ond - beth am 'knowledge' - nid yw hwnnw'r un peth ag 'information', ac
eto 'gwybodaeth' a ddefnyddir am y ddau fel arfer.
Efallai y byddwn i'n cynnig:
Data = data.
Information = gwybodaeth (sef data wedi eu casglu a'i didoli).
Knowledge = dealltwriaeth (sef gwybodaeth sydd wedi ei drafod ac y
canfuwyd ystyr ynddo).
Intelligence = cudd-wybodaeth neu hysbysrwydd (sef gwybodaeth neu ffrwyth
ymchwil, at bwrpas penodol, a ellid ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau).
|