Rydw i'n cytuno ag Alwyn Evans. Mi gefais fy magu yn Nhreuddyn yn Sir y Fflint, a Loggerheads yw Loggerheads.
Gyda llaw, mi ddylai'r arwydd ddarllen "We three at loggerheads", yn hytrach na "We three loggerheads"; roedd y camgymeriad yn cythruddo fy nhad, dyn cysáct iawn.
A dene ni!
Huw Plas ym Mhowys.
Huw Roberts
Cyfieithydd / Translator
(029) 2078 1432
07957 182 087
[log in to unmask]
Dros Gymru'n gwlad!
>>> [log in to unmask] 06/05/2006 01:24 >>>
Fel un a fu'n byw yn yr ardal am ugain mlynedd ac yn pasio heibio
Loggerheads a Thafarngelyn bob dydd ar fy ffordd i'm gwaith bryd hynny, alla'i ddweud
na chlywais neb erioed yn rhoi enw arall ar Loggerheads heblaw Loggerheads.
Dim ond y felin a'r dafarn sydd yn y lle yn wir, ac fe ddaw'r enw o enw'r
dafarn - " the We Three Loggerheads" - fe baentiwyd yr arwydd enwog gan yr
arlunydd Richard Wilson, mae'n debyg i dalu dyledion diod. Mae'r arwydd yn dangos
ddau benrwdyn eitha dwl yr olwg - a'r jôc weledol wrth gwrs wrth i chi ofyn "
Lle mae'r trydydd?" ydi'r ateb a ddaw, sef- "Yn syllu arno fo!"
Alwyn Evans
76 Chandlers Way
Penarth
Bro Morgannwg
CF 64 1SP
++ 44 (0)2920704301
mob ++ 44 (0)7968 649434
[log in to unmask]
|