Roeddwn i’n hanner disgwyl i rywun anghytuno a ‘dealltwriaeth’! ac rwy’n
deall pam ac yn cydweld i raddau.
Ond wrth sôn am y ‘knowledge economy’ er enghraifft mae ystyron gwahanol
i ‘knowledge’ ac ‘information’.
Un gwahaniaeth yw fod ‘knowledge’ ym mhen y person sy’n gwybod, yn hytrach
na bod y tu allan iddo megis ‘information’. Gellid rhoi ‘information’ mewn
data-bas, ond nid felly ‘knowledge’. Mae’n rhaid cael trafodaeth ac
ystyriaeth cyn y daw ‘knowledge’.
Tydi hynny ddim yn golygu bod yn rhaid cael termau gwahanol am y ddau yn y
Gymraeg bob amser, ond os rhaid gwahanu rhyngddynt mae dealltwriaeth o
leia’n perthyn i ‘knowledge’ yn hytrach nag ‘information’.
Dafydd
On Mon, 8 May 2006 11:02:27 +0100, Geraint Løvgreen
<[log in to unmask]> wrote:
>Yn bersonol, dwi ddim yn meddwl y byddai hyn (sef "dealltwriaeth" =
>"knowledge") yn gwneud y tro - "gwybodaeth" ydi "knowledge" oherwydd mai
>"gwybod" ydi "know".
>dealltwriaeth = understanding
>Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni dderbyn mai "gwybodaeth" a ddefnyddir am
>"knowledge" ac "information", yn yr un modd ag y mae'n rhaid i'r Sais
>dderbyn mai "know" a ddefnyddir am "gwybod" ac "adnabod", er eu bod yn
amlwg
>yn ddau gysyniad gwahanol.
>
>Mae "hysbysrwydd" yn tueddu i olygu gwybodaeth a rennir - "hysbysu" =
>"inform". Felly gellid defnyddio "hysbysrwydd" am "information" hefyd. Ond
>byddai'n dda pe gallen ni dderbyn "hysbysrwydd" am "intelligence", gan nad
>ydi'r math hwnnw o wybodaeth ddim bob amser yn gudd.
>
>Geraint
>
>----- Original Message -----
>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Sunday, May 07, 2006 2:49 AM
>Subject: Re: Information/intelligence
>
>
>Rwyf wedi dal swyddi o'r enw 'information officer' ac 'intelligence
>analyst' yn eu tro, ac mae 'gwybodaeth' a 'hysbysrwydd' yn
>swnio'n eitha teg i mi. (Gellid defnyddio cudd-wybodaeth hefyd
>am 'intelligence').
>
>Ond - beth am 'knowledge' - nid yw hwnnw'r un peth ag 'information', ac
>eto 'gwybodaeth' a ddefnyddir am y ddau fel arfer.
>
>Efallai y byddwn i'n cynnig:
>Data = data.
>Information = gwybodaeth (sef data wedi eu casglu a'i didoli).
>Knowledge = dealltwriaeth (sef gwybodaeth sydd wedi ei drafod ac y
>canfuwyd ystyr ynddo).
>Intelligence = cudd-wybodaeth neu hysbysrwydd (sef gwybodaeth neu ffrwyth
>ymchwil, at bwrpas penodol, a ellid ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau).
>=========================================================================
|