Daw hyn mewn rhestr:
"A design team will need to be appointed: architect, QS (quantity surveyor,
mae'n siwr), structural and M + E consultants."
Mae cyfeiriadau di-rif at y bobl hyn, efo rhyw cysylltiad ag
adeiladu/pensaerniaeth/cynllunio, ar y we, ond ni allaf weld unrhyw
eglurhad. Caf yr argraff fod 'na "Marketing and E-commerce" consultants
hefyd, ac M/E, M & E consultants mewn meysydd eraill hyd yn oed. Nid wyf
mewn sefyllfa ar hyn o bryd i holi'r cwsmer. Byddwn i'n ddiolchgar iawn am
unrhyw help - er mae'n bosibl y bydd yn rhaid i rywun arall gasglu ymateb y
grwp ar fy rhan i, ac os felly ni chaf gyfle i ddiolch ichi am ychydig.
Ann
Message has been scanned by Webshield
|