Print

Print


Daw hyn mewn rhestr:

"A design team will need to be appointed:  architect, QS (quantity surveyor,
mae'n siwr), structural and M + E consultants."

Mae cyfeiriadau di-rif at y bobl hyn, efo rhyw cysylltiad ag
adeiladu/pensaerniaeth/cynllunio, ar y we, ond ni allaf weld unrhyw
eglurhad.  Caf yr argraff fod 'na "Marketing and E-commerce" consultants
hefyd, ac M/E, M & E consultants mewn meysydd eraill hyd yn oed.  Nid wyf
mewn sefyllfa ar hyn o bryd i holi'r cwsmer.  Byddwn i'n ddiolchgar iawn am
unrhyw help - er mae'n bosibl y bydd yn rhaid i rywun arall gasglu ymateb y
grwp ar fy rhan i, ac os felly ni chaf gyfle i ddiolch ichi am ychydig.

Ann



Message has been scanned by Webshield