Dim ond diolch am ymateb mor wych a gadael i chi wybod mod i wedi cael
digon i fwy nag un wefan, bellach, a hynny o jocs Cymreig yn ogystal a
Chymraeg......
Yn fwy na hynny, da chi wedi gwneud i mi deimlo'n well - achos roeddwn
yn swp sal hefo'r feirws arferol ar ol i'r plant ddychwelyd i'r
ysgol..... (oes unrhyw un arall yn cael yr un peth.... plant yn mynd yn
ol i'r ysgol, a'r rhieni i gyd yn sal o fewn wythnos neu ddwy.....dwi'n
siwr bod testun PhD yn fan hyn neu destun ymchwiliad cyhoeddus+ACE-) .... a
dim awydd gorffen y tamed gwaith - a mae chwerthin am ben eich jocs chi
wedi gwneud i mi deimlo'n llawer gwell.....dim moddion tebyg.... da chi
gyd yn ddoniolach nag oeddwn i'n feddwl+ACE-
Magi
|