Rhif 910 yn Atodiad y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd.
Torrodd y bore fel y dydd cyntaf,
Canodd y fronfraith foddus ei llef;
Diolch i'r Iesu, mawl am bob bendith
A ddaw bob bore'n newydd o'r nef.
Melys yw'r gawod ddisglair sy'n disgyn
Fel y gwlith cyntaf gynt ar borfeydd;
Mawl am hyfrydwch yr ardd beraroglus
Lle sangodd Iesu, a'i phrydferth rodfeydd.
Eiddot y bore, a phob pelydryn
Anwyd yn Eden i chwarae mor rhydd;
Moliant o galon, moliant bob bore,
Mae'r Iesu'n ail-greu ei fendithion bob dydd.
Gyda llaw - byddai'n well gen i 'Gwawriodd y bore ......' - chlywais i ddim
am fore'n torri yn Gymraeg. Dwi'n siwr fod 'na fersiwn sy'n dechrau felly,
ond dwi'n methu ffeindio dim.
Catrin
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 16, 2003 12:34 AM
Subject: Re: Morning has broken ....
Diolch yn fawr - a ydych chi'n gwybod a yw'r holl emyn ar gael ar y
rhyngrwyd yn rhywle? Dim ond y llinellau hynny oedd angen (neu rywbeth
tebyg) ond o ddiddordeb personol hoffwn weld yr emyn ei hun, os yn bosibl.
Muiris
----- Original Message -----
From: "SANDRA WILLIAMS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 15, 2003 9:55 PM
Subject: Re: Morning has broken ....
Beth am yr efelychiad Cymraeg o'r emyn gan Nantlais:
Torrodd y bore fel y dydd cyntaf,
Canodd y fronfraith foddus ei llef;
Diolch i'r Iesu, mawl am bob bendith
A ddaw bob bore'n newydd o'r nef.
Hwyl,
Sandra
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 15, 2003 9:05 PM
Subject: Morning has broken ....
Mae angen cerdd neu gân sy'n sôn am adar a'r bore - rhywbeth yn debyg i'r
gân Saesneg
MORNING HAS BROKEN, LIKE THE FIRST MORNING...
BLACKBIRD HAS SPOKEN, LIKE THE FIRST BIRD...
A oes unrhyw un yn gwybod am gerdd neu gân fyddai'n gwneud y tro?
Diolch,
Muiris
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.497 / Virus Database: 296 - Release Date: 04/07/03
|