Rhif 910 yn Atodiad y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd. Torrodd y bore fel y dydd cyntaf, Canodd y fronfraith foddus ei llef; Diolch i'r Iesu, mawl am bob bendith A ddaw bob bore'n newydd o'r nef. Melys yw'r gawod ddisglair sy'n disgyn Fel y gwlith cyntaf gynt ar borfeydd; Mawl am hyfrydwch yr ardd beraroglus Lle sangodd Iesu, a'i phrydferth rodfeydd. Eiddot y bore, a phob pelydryn Anwyd yn Eden i chwarae mor rhydd; Moliant o galon, moliant bob bore, Mae'r Iesu'n ail-greu ei fendithion bob dydd. Gyda llaw - byddai'n well gen i 'Gwawriodd y bore ......' - chlywais i ddim am fore'n torri yn Gymraeg. Dwi'n siwr fod 'na fersiwn sy'n dechrau felly, ond dwi'n methu ffeindio dim. Catrin ----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, July 16, 2003 12:34 AM Subject: Re: Morning has broken .... Diolch yn fawr - a ydych chi'n gwybod a yw'r holl emyn ar gael ar y rhyngrwyd yn rhywle? Dim ond y llinellau hynny oedd angen (neu rywbeth tebyg) ond o ddiddordeb personol hoffwn weld yr emyn ei hun, os yn bosibl. Muiris ----- Original Message ----- From: "SANDRA WILLIAMS" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, July 15, 2003 9:55 PM Subject: Re: Morning has broken .... Beth am yr efelychiad Cymraeg o'r emyn gan Nantlais: Torrodd y bore fel y dydd cyntaf, Canodd y fronfraith foddus ei llef; Diolch i'r Iesu, mawl am bob bendith A ddaw bob bore'n newydd o'r nef. Hwyl, Sandra ----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, July 15, 2003 9:05 PM Subject: Morning has broken .... Mae angen cerdd neu gân sy'n sôn am adar a'r bore - rhywbeth yn debyg i'r gân Saesneg MORNING HAS BROKEN, LIKE THE FIRST MORNING... BLACKBIRD HAS SPOKEN, LIKE THE FIRST BIRD... A oes unrhyw un yn gwybod am gerdd neu gân fyddai'n gwneud y tro? Diolch, Muiris --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.497 / Virus Database: 296 - Release Date: 04/07/03