Mae wedi bod yn bosibl defnyddio w ac y gydag acen grom gyda Microsoft
Office 97 ymlaen. Rhaid i'r peiriant mae'n rhedeg arno gynnal ffontiau
'Unicode' (sy'n golygu Windows 95/98 neu'n uwch neu NT 4 neu 2000, ac wrth
gwrs XP). Rhaid sicrhau bod y ffontiau iawn ar eich system a bod
'Multilanguage Support' wedi ei arsefydlu ar eich peiriant.
Mae cyfarwyddiadau defnyddiol i'w cael ar y We yn:
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/html/infolang/3_ffont-c.html
Hefyd, mae'n bosibl fod yr offer gwirio (sydd ar gael o:
http://office.microsoft.com/uk/downloads/2002/WelshPtk.aspx
) yn gweithio gyda fersiynau eraill o Microsoft Office, gw.:
http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/wa.exe?A2=ind0109&L=testunau&F=&S=&P=334
ond cofiwch ofyn i'ch adran TG (os oes un!) cyn arsefydlu unrhyw beth
newydd ar eich peiriant.
Andrew
http://www.netwales.co.uk/byig/word8c.htm
-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-
Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066)
Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager
Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary
Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K.
URL: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
|