Fel dw i'n deall pethau, math o gynllun yw 'Money Purchase Pension' lle
dach chi'n talu swm bob mis sy'n cael ei fuddsoddi, fel mae Dean wedi
esbonio, er mwyn creu swm o arian erbyn i chi ymddeol y byddwch chi'n
GORFOD ei ddefnyddio i brynu 'annuity' (blwydd-da^l, yn o^l Bruce) sydd
wedyn yn darparu 'pensiwn' am weddill eich oes.
Prynu'r blwydd-da^l yw'r 'money purchase' am wn i (h.y. dach chi ddim yn
cael cymryd yr arian fel 'lump swm' ac eithrio cyfran bach ohono). Mae hyn
yn wahanol i bensiynau 'galwedigaethol' lle dach chi'n prynu blynyddoedd o
wasanaeth, mewn gwirionedd.
Dw i'n siwr bod arbenigwyr yn y maes yn gallu esbonio hyn yn well!
Andrew
-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-
Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066)
Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager
Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary
Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K.
URL: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
|