Gair bach o brofiad a all fod o gymorth i eraill. Prynais Office XP Small
Business wrth uwchraddio fy nghyfrifiadur, yn bennaf er mwyn cael y gwiriwr
sillafu. Methais â'i sefydlu - neges yn dweud nad oedd Office XP ar fy
nghyfrifiadur. Holais y sawl a werthodd y cyfrifiadur i mi a daeth ef o hyd
i neges ar wefan Microsoft yn dweud bod y neges a ges i yn anghywir - dylai
ddweud ei bod yn rhaid cael Office XP Enterprise - sy'n ddrud iawn - er
mwyn i'r gwiriwr weithio. Mae Bill Hicks, y rhaglennydd, yn dweud nad yw
hyn yn wir. Fe roddaf wybod i chi beth sy'n digwydd nesaf!
|