Fel mater o gywirdeb, p'un sydd orau 'swyddog gorfodaeth' ynteu 'swyddog gorfodi'? Gallaf weld dadleuon ar y ddwy ochr, ac wedyn pan edrychwn ar ymadroddion cyffelyb o feysydd eraill fe welwn gynseiliau digon cadarn dros y ddwy.
Cymerwn, er enghraifft, 'swyddog cofrestru' a 'swyddog profiannaeth'. Tybed a yw'r gwahaniaeth yn tarddu o'r ffaith fod y swyddog cyntaf yn *cyflawni'r* weithred o ychwanegu enw (a manylion eraill) i restr bwrpasol, a bod yr ail yn gyfrifol am *oruwchwylio*'r brofiannaeth, sydd wedi'i gosod gan y llys tra bo dedfryd arall yn cael ei atal yn ystod ymddygiad da troseddwr a ddyfarnwyd yn euog? Os felly, mae'n debyg taw 'swyddog gorfodi' fyddai orau. Ond os wyf i wedi camddeall yr egwyddor ar waith yma, os gwn i a fedr rhyw ramadegwr caredig fy ngoleuo?
Tim
>>> "Crowe, Richard (OPO)" <[log in to unmask]> 11/01/00 01:22pm >>>
On cofiwch fod yna fath beth â 'compliance officer'.
-----Original Message-----
From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 01 November 2000 11:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Enforcement Officer
Yr aelodau o'r cyhoedd (gobeithio!) sy'n gwneud y cydymffrufio a'r ufuddhau,
o dan orfodaeth y swyddog.
Tim
>>> Neil Shadrach <[log in to unmask]> 11/01/00 11:48am >>>
Ysgrifennodd Tim:
> Mae'r sawl sy'n 'gorfodi', mewn cyd-destun cyfreithiol, yn peri i bobl
gydymffurfio
> =E2 rhyw reolau neu'i gilydd.
Onid yw hynny yn awgrymu "Swyddog Cydymffurfiaeth/Cydymffurfio"?
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|