Dw'i yn nghanol cyfieithu cardiau busnes ar gyfer nifer o swyddogion y
cyngor. Gwaith y swyddog uchod yw i fynd allan o gwmpas yr ardal a sicrhau
nad yw pobl yn taflu sbwriel ar y stryd, nad yw eu cwn yn baeddu ar
balmentydd a.y.b. (rhan o'n Gwasanaethau Amgylcheddol yw'r swydd). Mae'r
hawl hefyd gan y swyddog i osod dirwy yn syth i unrhyw un sy'n torri'r
rheoliadau.
"Gorfodaeth" sydd yng Ngeiriadur yr Academi am "enforcement" ond ydy Swyddog
Gorfodaeth neu Swyddog Gorfodi yn cyfleu ystyr y swydd yn iawn? Ac ie, nid
yw'r Saesneg yn cyfleu ystyr y gwaith hefyd - roedd rhaid i mi ofyn beth
oedd y swydd cyn i mi allu anfon y neges hon!
Unrhyw gynigion?
David A.Thomas David A.Thomas
Policy Unit Uned Polisi
Tredomen Tredomen
Extension 4353 Estyniad 4353
E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|