Awgrymodd ffrind o Wyddel y dylem gyfieithu'r teitl a ddefnyddir gan Prif Weinidog yr Ynys Werdd. Er bod rhwbeth gogleisiol o ddeniadol yn y syniad, yn anffodus mae'r gair *Taoiseach* yn gytras â *Tywysog*! Hmm.
Tim
>>> "Tim Saunders" <[log in to unmask]> 10/23/00 10:26am >>>
Digon teg - prif < primus
Gyda llaw, mae'r cyfryngau Gwyddeleg yn cyfeirio at Rhodri fel Príomh Aire na Breataine Bige = 'Prif Weinidog Cymru' ers achau. Teitl Paul Murphy, ar y llaw arall, yw Fear Ionaid = 'Isfrenin'. Tybed a ddylai'r brawd gael ffurfwisg ysblennydd a het bluog i'w gwisgo?
Tim
>>> "Griffiths, Heledd (OPO)" <[log in to unmask]> 10/23/00 10:24am >>>
Ar ôl hir drafod, penderfynwyd ar 'Prif Weinidog Cymru'.
-----Original Message-----
From: Thomas, David A [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 23 October 2000 10:16
To: [log in to unmask]
Subject: First Minister
Beth yw'r term am yr uchod gan mai "Prime Minister" yw "Prif Weinidog"?
David A.Thomas David A.Thomas
Policy Unit Uned Polisi
Tredomen Tredomen
Extension 4353 Estyniad 4353
E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|