Awgrymodd ffrind o Wyddel y dylem gyfieithu'r teitl a ddefnyddir gan Prif Weinidog yr Ynys Werdd. Er bod rhwbeth gogleisiol o ddeniadol yn y syniad, yn anffodus mae'r gair *Taoiseach* yn gytras â *Tywysog*! Hmm. Tim >>> "Tim Saunders" <[log in to unmask]> 10/23/00 10:26am >>> Digon teg - prif < primus Gyda llaw, mae'r cyfryngau Gwyddeleg yn cyfeirio at Rhodri fel Príomh Aire na Breataine Bige = 'Prif Weinidog Cymru' ers achau. Teitl Paul Murphy, ar y llaw arall, yw Fear Ionaid = 'Isfrenin'. Tybed a ddylai'r brawd gael ffurfwisg ysblennydd a het bluog i'w gwisgo? Tim >>> "Griffiths, Heledd (OPO)" <[log in to unmask]> 10/23/00 10:24am >>> Ar ôl hir drafod, penderfynwyd ar 'Prif Weinidog Cymru'. -----Original Message----- From: Thomas, David A [mailto:[log in to unmask]] Sent: 23 October 2000 10:16 To: [log in to unmask] Subject: First Minister Beth yw'r term am yr uchod gan mai "Prime Minister" yw "Prif Weinidog"? David A.Thomas David A.Thomas Policy Unit Uned Polisi Tredomen Tredomen Extension 4353 Estyniad 4353 E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask] %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%