Er nad yw gwefan y Cynulliad wedi newid y teitlau Cymraeg eto, mae'r teitlau
newydd ar fewnrwyd y Cynulliad, sy'n dda i ddim i'r byd tu fas dwi'n gwbod -
ond mater o amser yw hi!
Prif Weinidog Cymru yw'r teitl swyddogol, ond mae'n anochel na fydd y teitl
llawn yn cael ei ddefnyddio bob tro. O ran Cofnod swyddogol y Cynulliad, ar
hyn o bryd yr ydym wedi penderfynu cyflwyno Rhodri Morgan fel "Prif Weinidog
Cymru". Ond mae'r sefyllfa mor newydd fel nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd
sut y bydd hynny'n edrych - fe allai darllen "Prif Weinidog Cymru" dro ar ôl
tro mewn araith fod yn hirwyntog ac yn ddiangen, ac efallai y byddai
defnyddio "Prif Weinidog" wedi bod yn ddigon, os nad oedd rhywun yn sôn am
Mr Blair wrth gwrs. Byddwn hefyd yn dilyn geiriau'r Aelodau, yn ôl ein
harfer, ac yn cofnodi eu defnydd hwy o'r teitl (os nad yw eu defnydd yn gwbl
anghywir wrth gwrs!). Amser a ddengys yw hi eto felly (o ran y Cofnod!).
Er nad oes Cynulliad arall yn dwyn yr un teitl â ni yn union, cafwyd problem
debyg (o ran y Cofnod eto) gyda "Cynulliad (Cenedlaethol) (Cymru)" - a
ddylid defnyddio'r teitl llawn bob tro?? Mae'r cyfryngau yn newid eu defnydd
o'r teitl yma yn wythnosol, felly sut allwn ni ddisgwyl iddynt fod yn gyson
'da "Prif Weinidog (Cymru)"?
Lisa
-----Original Message-----
From: Owen Thomas [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 23 October 2000 10:31
To: [log in to unmask]
Subject: RE: First Minister
Hyd yn hyn, rwyf wedi gweld a chlywed y BBC yn defnyddio 'Prif Weinidog' i
ddisgrifio teitl newydd Rhodri Morgan. Ond os ewch i
http://www.cymru.gov.uk/cabinet/members/cabinetmembers_w.htm fe welwch nad
yw'r Cabinet wedi newid o gwbl yn Gymraeg ac mai Prif Ysgrifennydd yw Rhodri
Morgan o hyd!
Yn gywir,
Owen Thomas
-----Original Message-----
From: [log in to unmask]
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Thomas,
David A
Sent: 23 October 2000 10:16
To: [log in to unmask]
Subject: First Minister
Beth yw'r term am yr uchod gan mai "Prime Minister" yw "Prif Weinidog"?
David A.Thomas David A.Thomas
Policy Unit Uned Polisi
Tredomen Tredomen
Extension 4353 Estyniad 4353
E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|