Mae hyn yn codi pwynt eithaf pwysig yng nghyd-festun hanes a gwleidyddiaeth, sef y ffaith y gall term neu enw amlygu gogwydd tuag at un ochr rhagor y llall - e.e. Doire/Derry/Londonderry. Weithiau, wrth gwrs, mae treigl amser yn datrys y broblem inni, fel yn achos y ddinas a godwyd ar lannau Niefa ar orchymyn Pedr. Sanct-Petersbwrg yw'r unig enw credadwy os ydym yn trafod y ddinas pryd yr oedd Rascolnicof o gwmpas ei bethau, ond Petrograd pan oedd y Bolsieficiaid a'r Mensieficiaid yn ymgiprys am bwer yno. Os yn son wedyn am y misoedd ofnadwy yna hanner canrif yn ol pryd yr oedd mil o bobl yn marw bob dydd, Gwarchae Leningrad amdani. AC wrth gwrs, mae'r rhod wedi troi unwaith eto ... Yn yr un modd, Danzig ar gyfer yr hen ddinas Hanseatig a ddaeth wedyn yn asgwrn cynnen rhwng Pwyl a'r Almaen, ond Gdansk i'r ddinas lle ganed mudiad Solidarnosc. Eto i gyd, rwy'n cydnabod bod hyn y gadael sawl cwestiwn digon pigog, a charwn yn fawr iawn glywed barn y brodyr a'r chwiorydd am y rhain - yn enwedig y rhai nad wyf yn ymwybodol ohonynt.
Am yr Annifyrrwch Diweddar, y mae'r term 'Cyngrair' yn ddisgrifiad digon cywir o'r berthynas oedd i fod rhwng Taleithiau'r De. ei gilydd, a'r corff newydd. Diddorol yw sylwi nad oedd y Gyngres yn meddu ar bwerau deddfwriaethol cysefin, ond yn hytrach rai dirprwyedig. Yn hynny o beth, roedd hi'n debyg iawn i'r hen Gyngres Gyfandirol cyn y Cyfansoddiad Ffederalaidd, pryd y defnydid y term 'Cyngres' yn ei hen ystyr, sef cynhadledd rhyngwladol rhwng cynrychiolwyr sawl sofran - fel, e.e., Cyngres Fienna, Cyngres Berlin.
>>> Roger Fenton <[log in to unmask]> 07/18 8:22 AM >>>
Iawm am wn i. Pam mynd trwy'r drafferth o greu termau Gymraeg newydd pan
bod termau Cymraeg ar gael yn barod!
Ond sylwch, mae'r Americanwyr yn galw taleithiau'r De The Confederacy, neu
Confederate States of America (yr enw swyddogol), nid The Confederation, os
ydy hyn yn gwneud gwahanieath! Pan bod Americanwyr yn meddwl am y geiriau,
dydn nhw ddim yn cysylltu confederacy gyda confederation neu federation.
Mae Confederacy yn llawer mwy tebyg o ran "connotation" i
"rebellious/rebels" (ac yn y Gogledd i "treason") nac i'r gair yn
Confederation of British Industry neu AFL/CIO (American Federation of
Labor/Confederation of Industrial Organizations=TUC ym Mhrydain). Ac mae
hynny yn amlwg yn deillio o'r Rhyfel ei hun.
Roger
At 12:15 17/07/00 +0100, you wrote:
>Beth yw barn y brodyr a'r chwiorydd am wneud defnydd o'r adnoddau
traddodiadol sydd ar gael yn yr iaith wrth drafod pynciau hanesyddol?
Sylwais, e.e., fod ffynonellau cyfoes yn defnyddio Cynghreirwyr ac
Undebwyr yn weddol gyson ar gyfer y ddwy ochr yn y Rhyfel rhwng y
Taleithiau (1861-5) ('yr anhyfrydwch diweddar' yn ol gwraig un o'm
ffrindiau - brodores o Florida). Mae'r term 'Cyngrair' yn amlygu
dealltwriaeth ddigon cywir o'r berthynas gyfansoddiadol rhwng Taleithiau'r
De, ac fe fuaswn i'n mentro awygrymu bod hyn, yn ogystal a'r ffaith bod y
clwstwr o dermau perthynol ar gael mewn ffynonellau cyfoes, yn gyfiawnhad
digon sylweddol dros dderbyn yr hyn sydd ar gael yn barod.
>
>
>
>
>
Roger Fenton
Cynorthwy-ydd Ymchwil / Research Assistant
Information Automation Ltd.
c/o Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
/ Department of Information and Library Studies
Prifysgol Cymru Aberyswtyth / University of Wales Aberystwyth
Campws Llanbadarn Fawr / Llanbadarn Fawr Campus
Aberystwyth, Ceredigion SY23 3SA
ffon / phone: +44(0)1970 621 805
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|