Oes, y mae gwahaniaethau yn yr arwyddion - gw. tt. 390-1, 906 Dictionary of British Sign Language / English , gol. David Brien, Faber & Faber, Llundain, 1992.
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 07/06 6:25 PM >>>
Ateb hirwyntog gan Ann - heb help Bruce!!
'Rwy'n meddwl mai at "Gramadeg y Gymraeg" Atodiad IV.38, gwaelod tudalen
779, mae Richard Hughes yn cyfeirio, ond nid wyf yn teimlo bod y
gymhariaeth yn un deg. Mae'r llyfr yn son am ddefnyddio acen ddyrchafedig
naill ai (i) i ddangos bod yr acen yn syrthio mewn lle annisgwyl neu (ii)
fel y gall y darllenwr weld y gwahaniaeth rhwng gair sydd yn defnyddio "w"
fel cytsain ac un sydd yn defnyddio "w" fel llafariad.
Mae'r ddau "gwraidd" yn dod o "wreiddiau" hollol wahanol. Mae'r "gwraidd"
sy'n golygu "root" yn defnyddio'r "w" fel cytsain (cf. "gweld"), ac felly
mae'r gair yn un unsill. Mae'r "gwraidd" sy'n golygu "dewr" yn defnyddio'r
llythyren fel llafariad (cf. "y gwter"). Felly mae'r gair yn un deusill.
'Does dim problem gwahaniaethu rhwng y ddau air ar lafar, dim ond ar bapur.
Mae'r acen yn "gwraidd" ("gwr-aidd"= "man-ly") ar lafar yn syrthio ar y
sillaf olaf ond un, lle byddid yn ei disgwyl yn y Gymraeg. Nid yw'n
enghraifft o (i) uchod, ond o (ii). Byddai "Bydda/r" yn enghraifft o
gategori (i), gyda'r acen mewn lle anarferol.
Mae (i) a (ii) yn y llyfr yn ymwneud a geiriau sydd eisoes mewn bod ar
lafar, lle nad oes modd eu camgymryd. Nid ydynt yn ymwneud a newid
ynganiad gair ar lafar, a'i acennu'n annaturiol, er mwyn gwahaniaethu
rhyngddo a gair arall, a oedd yn wreiddiol yr un gair. Am wn i dyma beth
sydd wedi digwydd i"diflas" a "di-flas", ond mae'n swnio'n "bizarre" imi
(ac yn yr achos hwn yn odli efo fo hefyd), (Wrth feddwl, mi wnaeth Cynthia
Bucket, yn y gyfres deledu, fynnu ynganu ei henw'n "Bouquet".)
Fel arfer, mae'n debyg, mae'r term llafar yn effeithio ar sillafu'r term
ysgrifenedig, yn hytrach na bod rhyw gonfensiwn ysgrifenedig yn effeithio
ar yr ynganiad llafar. Er gwaethaf sylw Bruce, allen ni gymryd bod y
Saeson eisoes yn defnyddio "deaf/Deaf" heb ddrysu? Ond fel mae Tim
Saunders, yn dweud "yn yr amgylchiadau, nid yw swn gair mor bwysig ag y
gallai fod!",sef ni fydd y rhan fwyaf o'r bobl (fyddar/Fyddar) sy'n ei
ddefnyddio yn gallu ei glywed. Os felly, sut maen nhw'n gwahaniaethu wrth
arwyddo? Ydy'r arwyddion ar gyfer y ddau air rywbeth yn debyg, neu'n
hollol wahanol? Ydy'r syniad(au) a gyfleir yn awgrymu defnyddio gair
Cymraeg arall - fel y bydden ni'n cyfieithu o'r "iaith" wreiddiol yn lle
o'r cyfieithiad Saesneg!
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|