Meddai Richard Hughes <[log in to unmask]>:
( A ydym yn bathu geiriau (o'r Saesneg) heddiw lle bo hen
) eiriau anghofiedig addas(ach) ar gael?
Tydy bod yn wahanol o ran cynnwys geirfa i'r Saesneg ddim o
anghenraid yn arwydd o Gymreicrwydd (er mod i'n cydweld bod
bod yn wahanol o ran maint geirfa yn arbennig felly). Pe
byddai dylem fod yn marchogaeth ceffylau haearn ac yn teithio
mewn cerbydresi ac ni fyddai tegelli na thebotiau yn Gymreig
o gwbl. Gwae ni.
Beiciwn! Byddwn chwim, byddwn rugl. Paned arall o de, ficer?
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|