Meddai Richard Hughes <[log in to unmask]>: ( A ydym yn bathu geiriau (o'r Saesneg) heddiw lle bo hen ) eiriau anghofiedig addas(ach) ar gael? Tydy bod yn wahanol o ran cynnwys geirfa i'r Saesneg ddim o anghenraid yn arwydd o Gymreicrwydd (er mod i'n cydweld bod bod yn wahanol o ran maint geirfa yn arbennig felly). Pe byddai dylem fod yn marchogaeth ceffylau haearn ac yn teithio mewn cerbydresi ac ni fyddai tegelli na thebotiau yn Gymreig o gwbl. Gwae ni. Beiciwn! Byddwn chwim, byddwn rugl. Paned arall o de, ficer? %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%