Mae'r gair telgorn neu tolgorn (= 'oboe', ymhliyj pethau eraill) i'w weld
mewn llawer o hen eiriaduron, gan ddechrau gyda llawysgrif Thomas Wiliems
yn 1604-7. Gwall yw e, wedi cymryd y gair Hen Gernyweg tollgorn fel gair
Cymraeg. Methais yn la+n a+ gweld torbib, ond sylwais ar tolbib sy'n golygu
'clarinet'. Mae'r ddau i'w gweld yng neiriaduron Caerfallach (1850) a
Silvan Evans (1852) - Bruce ei ddydd (mae ei eiriadur tua'r un hyd ag un
Bruce). Dyma ffynhonnell y geiriau 'ffug' hyn, mae'n debyg.
Beth bynnag, mae'r enghreifftiau wedi'u hychwanegu at ein casgliad, ac
efallai gwelant olau dydd eto cyn bo hir!
At 15:08 25/05/00 +0200, you wrote:
>Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]>
>Pwnc: A geiriau bach hen ieithoedd diflanedig
>
>Neithiwr, ar o^l cinio bras o w^ydd flasus a gwydriad o laeth yr annwyl
>fodan 'roeddwn yn pori yng nghanol rhaglen swyddogol eisteddfod
>genedlaethol frenhinol(*) Cymru, Caernarvon (!) 1935. Yn yr adran
>chwythbrennau 'roedd tair cystadleuaeth:
>
> Unawd ar y Chwibanogl draws - Andante gan Haydn
> Unawd ar y Dorbib - Nocturne gan Josef Holbrooke
> Unawd ar y Telgorn - Rhapsody gan Norman Peterkin
>
>Deallais bod y gyntaf yn cyfeirio at y 'ffliwt' ond beth yw/oedd 'torbib'
>a 'thelgorn'?
>
>Chwilio a chwilio yn ofer yng Ngheiriadur yr Academi, yng Ngheiriadur
>Prifysgol Cymru, yng Ngeiriadur Bodvan Anwyl, yn y Geiriadur Mawr
>ac yn y 'Termau Cerddoriaeth'.
>
>Y bore 'ma, rhoddais dinc i gwmni Hieber(**) yma yn Munich; gofynnais i
>ba offerynnau cerdd yr ysgrifennwyd y 'Nocturne' gan Josef Holbrooke a'r
>'Rhapsody' gan Norman Peterkin? Disgwyl am ennyd; toc, daeth yr atebion
>mewn llais undonog y cyfrifiadur - " 'Klarinette' und 'Oboe' ".
>
...
>Paham neu sut, felly, mae hen eiriau (da?) fel hyn yn diflannu heb adael o^l?
>
...
>Richard Hughes,
>Gesellschaft beratender Informatiker mbH
>Muenchen
>Yr Almaen
>
>
-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-
Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066)
Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager
Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary
Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K.
URL: http://www.aber.ac.uk/~gpcwww/
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|