Annwyl bawb,
Rwy'n meddwl y byddai'r neges isod o ddiddordeb i aelodau'r cylch.
Mae 5 ysgoloriaeth i fyfyrwyr ôl-radd yn cael eu cynnig eleni ar gyfer y
cwrs Meistr mewn Astudiaethau Cyfieithu, Prifysgol Bangor. Dyma gyfle
gwych i ddarpar-gyfieithwyr ddysgu mwy am y grefft o gyfieithu, neu i
gyfieithwyr profiadol ennill cymwysterau academaidd pellach yn y maes.
Mae’r ysgoloriaethau ar gael ar gyfer unrhyw bâr o ieithoedd o blith
Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg.
Ariennir yr ysgoloriaethau hyn dan gynllun ATM (Mynediad at Radd Meistr)
Prifysgol Bangor, dan gronfa Cydgyfeiriant ESF yr Uned Ewropeaidd a
Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Noddir yr ysgoloriaethau ATM gan gwmnïau
yn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru, a bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n
derbyn ysgoloriaeth dreulio mis ar leoliad gyda’r cwmni sydd yn eu noddi.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth, rhaid i fyfyrwyr fod yn
byw o fewn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru, sef gogledd a gorllewin
Cymru, a’r Cymoedd. Rhaid iddynt hefyd fodloni amodau arferol astudio ar
gyfer y radd Meistr berthnasol.
Am fanylion pellach, ewch i http://www.catcymru.org/ a chlicio ar
'ysgoloriaethau'.
Diolch,
Delyth
|