Dw i'n cytuno â damcaniaeth Annes yn y cyswllt hwn -- er nad ydyw'n esbonio
pam y mae'r enw 'Dafydd' yn cael ei gamsillafu gymaint yn amlach na'r rhan
fwyaf o enwau Cymraeg eraill.
Mae sylwadau Annes wedi f'atgoffa o hanes a glywais yn ddiweddar ynglyn â
Sais yn ardal Penygroes, Arfon, sydd yn arfer galw pentref Dolydd yn "Dolly-
dee-dee". O leiaf gall Dafyddiaid ein cenedl ymhyfrydu (am ryw hyd, o
leiaf) yn y ffaith nad ydynt yn cael eu galw'n "Daffy-dee-dee".
Wyn
|