Dwi'n sylwi o hyd yn y wasg hefyd fod y Ffindirwr yn yr amddiffyn i Lerpwl
bob amser yn cael ei alw'n Sami Hyppia yn lle Sami Hyypia. Mae dyblu 'p'
jyst yn dod yn fwy naturiol i'r Sais na dyblu 'y', mae'n rhaid. Yn yr un
modd, mae dyblu 'f' yng nghanol gair yn dod yn fwy naturiol iddo na dyblu
'd' ar ddiwedd gair. Felly mae o'n glynu at y cyfarwydd.
Dipyn bach yn thic ydio, bechod.
Dwi'n cael 'Lovegreen' o hyd yn lle 'Lovgreen', ac mae hynny'n dân ar fy
nghroen i hefyd. Hyd yn oed pan ti'n llenwi un o'r ffurflenni 'na sy'n gofyn
am roi un llythyren ym mhob blwch, mae rhywun yn rhywle yn penderfynu rhoi'r
'e' i mewn. Dwi wedi gorfod anfon cardiau banc ayb. yn ôl.
Dwi'n tueddu i fynd yn ôl i'r gwreiddiol (Swedeg) Løvgreen rwan er mwyn
tynnu sylw at y peth.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 02, 2004 9:29 AM
Subject: Re: Daffyd
> A pham mae nifer da o bobl, sydd wedi gweld fy nghyfeiriad droeon, yn
> ysgrifennu ataf yn "Hoel Belmont". Mae pobl ar wasanaethau ffon o bob
math
> yn llwyddo i ynganu "Heol" yn eitha da y tro cyntaf iddynt ei gweld ar
sgrin
> cyfrifiadur, felly mae'n rhaid bod 'na rywbeth annhebygol ynghylch *golwg*
> "Heol" sy'n gwneud i bobl amau cywirdeb eu llyfrau cyfeiriadau a'i newid.
>
> Wedi dweud hynny, mae rhaid cyffadau (O na! hollol anfwriadol) mai un o'r
> pechaduriaid yw fy modryb, a phan geisiais ei chywiro ynghylch rhoi
> "Professor Bruce Griffiths" ar lythyrau at y Dr Bruce Griffiths, mynnodd
ei
> bod hi'n licio ei wneud fel 'na beth bynnag. Ond efallai, yn gyffredinol,
> mae'r cam "ff-d" yn ymwneud a'r llwybrau "teipio" yn yr ymenydd, a bod y
> bysedd yn gwneud yr hyn sy'n cyfarwydd iddynt, yn hytrach na'r hyn mae'r
> llygaid yn dweud wrthynt - er nad yw hynny'n esgus i minnau.
>
> Ann
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, March 01, 2004 11:45 PM
> Subject: Re: Daffyd
>
>
> > Berwyn,
> >
> > Diolch. Efallai yn wir, ond rwy'n wirioneddol gredu fod na rywbeth i'w
> > ddysgu fan hyn.
> >
> > Dyma gychwyn e-bost arall, a dderbyniais ond ychydig eiliadau yn ol,
> > oddiwrth (Sais) yn Sir Gaerfyrddin, o ganlyniad i e-bost anfonais ato.
> > Dieithryn hollol, tan heddiw:
> >
> > "Dear Daffyd,
> > Many thanks for your note.
> > Last Summer, trying out various modifications of..."
> > ac ymlaen am faterion gwyddonol.
> >
> > Anfonwyd y neges wreiddiol gan Dafydd... cyfeiriwyd yr ateb gan y sustem
> > at Dafydd... ond hefo Daffyd mae'r dyn yn cysylltu. Mae'r peth yn
> > anhygoel. 25 mlynedd, 100 ebost y dydd, 10% ohonynt at Daffyd...mae'n
> > rhaid fod gan rhyw ieithydd yn rhywle esboniad!
> >
> >
> > Message has been scanned by Webshield
> >
> >
> >
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
|