Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA.
I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem yn
dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn ffigyrau, h.y.
ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn". Fel y dywed ef,
wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar" hyd yn
oed o flaen enw benywaidd.
Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n
wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd. Cymhlethir y mater gan y newid a fu yn
ystyr "billion". Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n safonol yn
y Deyrnas Unedig. Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan ddilyn
arfer America, i olygu mil o filynau. Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i osgoi
unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir yng NgPC
fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell) ac
yng NgyrA. Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed".
Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM
Subject: Re: 2million/2 billion
Ysgrifennodd Dwynwen:
> Diolch i chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy
> marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau filiwn*
> yn swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na
> threiglad o *Biliwn .*
>
> Dwi'n cytuno braidd efo Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn
> yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy
> ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall. .
>
> Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy
> biliwn* - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai *biliwn*
> olygir. Ond pa un ddylwn i fynd amdano???
> Dwynwen
>
>
> --- Original Message -----
> *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM
> *Subject:* Re: 2million/2 billion
>
> Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a):
>
> "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw
> /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau
> hyn gan rifolion,
> e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn
> miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn."
>
> Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn os
> cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn'
> ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'.
>
> Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw
> '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'.
>
> Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r
> Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond yn
> groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw
> (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn').
>
> Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth! Pa
> Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy* filiwn'
> a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai
> 'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn
> fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'?
>
Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn rhywbeth
sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir tystiolaeth
fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny. Yn
achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o 1725
ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw
nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n
ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y
gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn
fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser,
mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd.
Delyth
>
> Ond pwy ydw i i ddeddfu?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM
> *Subject:* 2million/2 billion
>
> Tybed fedrwch chi helpu.
> Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg
> Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le
> *dwy filiwn* geir am y ddau !!
> Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn" i roi *dwy biliwn *er
> mwyn gwahaniaethu??
>
> Diolch
> Dwynwen
>
>
> ------------------------------------------------------------------
------
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release
> Date: 23/09/2005
>
|