Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA. I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem yn dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn ffigyrau, h.y. ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn". Fel y dywed ef, wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar" hyd yn oed o flaen enw benywaidd. Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd. Cymhlethir y mater gan y newid a fu yn ystyr "billion". Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n safonol yn y Deyrnas Unedig. Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan ddilyn arfer America, i olygu mil o filynau. Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir yng NgPC fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell) ac yng NgyrA. Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed". Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf. Bruce ----- Original Message ----- From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM Subject: Re: 2million/2 billion Ysgrifennodd Dwynwen: > Diolch i chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy > marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau filiwn* > yn swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na > threiglad o *Biliwn .* > > Dwi'n cytuno braidd efo Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn > yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy > ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall. . > > Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy > biliwn* - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai *biliwn* > olygir. Ond pa un ddylwn i fynd amdano??? > Dwynwen > > > --- Original Message ----- > *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM > *Subject:* Re: 2million/2 billion > > Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a): > > "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw > /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau > hyn gan rifolion, > e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn > miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn." > > Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn os > cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn' > ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'. > > Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw > '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'. > > Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r > Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond yn > groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw > (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn'). > > Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth! Pa > Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy* filiwn' > a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai > 'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn > fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'? > Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn rhywbeth sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir tystiolaeth fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny. Yn achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o 1725 ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser, mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd. Delyth > > Ond pwy ydw i i ddeddfu? > > Berwyn > > ----- Original Message ----- > *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM > *Subject:* 2million/2 billion > > Tybed fedrwch chi helpu. > Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg > Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le > *dwy filiwn* geir am y ddau !! > Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn" i roi *dwy biliwn *er > mwyn gwahaniaethu?? > > Diolch > Dwynwen > > > ------------------------------------------------------------------ ------ > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Anti-Virus. > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release > Date: 23/09/2005 >