Rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio ers rhyw wythnos erbyn hyn ac yn dechrau dod
yn gyfarwydd a'r eirfa a ddefnyddir e.e. Briwsion yn hytrach na Cwcis.
Tybed pwy wnaeth y gwaith cyfieithu?
Muiris
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 09, 2004 3:20 PM
Subject: Re: Anfon at restr hir o bobl
> NEU, os ydych chi bellach yn gweithio ar Microsoft Cymraeg:
>
> "Cyfeiriwch y copi cyntaf atoch chi eich hun. Mae 'na ail ffenestr dan y
>> ffenestr "At:", efo'r enw "Copi:". Pwyswch ar yr eicon a'r "Copi:" ac mi
> ddowch
>> at sgrin lle gallwch lwytho enwau o'ch rhestr o "Cysylltiadau" i mewn i
> ffenestr
>> "At:", neu "Copi:" neu "Cudd:" Mae "Cudd" yn golygu "copi cudd" (!)
>> ...."
>
> Mae Microsoft Cymraeg ar gael i'w lwytho i lawr am ddim o wefan Microsoft,
> OND rhaid ichi fod efo Windows XP i gael Windows yn Gymraeg, ac Office
> 2003
> i gael Microsoft Office (Word, Outlook ac ati) yn Gymraeg.
>
> Mae modd llwytho un i lawr heb y llall os mai dim ond un o'r rhain sydd
> gennych chi.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, December 09, 2004 2:40 PM
> Subject: Anfon at restr hir o bobl
>
>
>> Er nad wyf bob amser yn cofio ei wneud fy hun, gwn am ddull o anfon neges
> at
>> restr faith o bobl, heb ddatgelu i bob un pwy yw'r lleill, a heb ddangos
>> tudalennau o gyfeiriadau:
>>
>> Cyfeiriwch y copi cyntaf atoch chi eich hun. Mae 'na ail ffenestr dan y
>> ffenestr "To:", efo'r enw "Cc:". Pwyswch ar yr eicon a'r "Cc:" ac mi
> ddowch
>> at sgrin lle gallwch lwytho enwau o'ch rhestr o "Contacts" i mewn i
> ffenestr
>> "To:", neu "Cc:" neu "Bcc:" Mae "Bcc" yn golygu "Blind carbon copy", ac
> os
>> rhowch yw enwau i gyd yn y ffenestr honno, ni fydd unrhyw un sy'n derbyn
>> copi yn medru gweld pwy arall sydd wedi cael un.
>>
>> Fel 'dych chi'n gwybod, mae'n debyg, mae modd rhoi enw ar grwp o bobl,
>> fel
>> nad oes angen teipio pob enw yn y grwp bob tro 'dych chi'n anfon atyn nhw
> i
>> gyd, dim ond enw'r grwp. Dw i ddim yn digwydd gwybod beth yw effaith
> gwneud
>> hyn yn ffenestr "Bcc:", ond mae'n werth trio.
>>
>> Ann
|