Er nad wyf bob amser yn cofio ei wneud fy hun, gwn am ddull o anfon neges at
restr faith o bobl, heb ddatgelu i bob un pwy yw'r lleill, a heb ddangos
tudalennau o gyfeiriadau:
Cyfeiriwch y copi cyntaf atoch chi eich hun. Mae 'na ail ffenestr dan y
ffenestr "To:", efo'r enw "Cc:". Pwyswch ar yr eicon a'r "Cc:" ac mi ddowch
at sgrin lle gallwch lwytho enwau o'ch rhestr o "Contacts" i mewn i ffenestr
"To:", neu "Cc:" neu "Bcc:" Mae "Bcc" yn golygu "Blind carbon copy", ac os
rhowch yw enwau i gyd yn y ffenestr honno, ni fydd unrhyw un sy'n derbyn
copi yn medru gweld pwy arall sydd wedi cael un.
Fel 'dych chi'n gwybod, mae'n debyg, mae modd rhoi enw ar grwp o bobl, fel
nad oes angen teipio pob enw yn y grwp bob tro 'dych chi'n anfon atyn nhw i
gyd, dim ond enw'r grwp. Dw i ddim yn digwydd gwybod beth yw effaith gwneud
hyn yn ffenestr "Bcc:", ond mae'n werth trio.
Ann
|