Roeddwn i'n cymryd bod gwahaniaeth rhwng y cymwysterau yn y cwestiwn
cyntaf ac aelodaeth y Gymdeithas, gan eich nad yw'r cymwysterau a
restrir yn y dod i ben, hynny yw mae Tystysgrif Addysg i Raddedigion
gyda fi er nad wyf yn athro ac wedi peidio a bod ers blynyddoedd, ond
mae aelodaeth y Gymdeithas yn wahanol, mae'n gallu dod i ben os
byddwch yn stopio gweithio fel cyfieithydd ac yn stopio talu'r ffi
aelodaeth i'r Gymdeithas, felly mae aelodaeth y Gymdeithas yn
debycach, yn fy marn i, i 'cymwyster galwedigaethol/cysylltiedig a
gwaith arall'.
Muiris
2011/3/28 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
> Dim ond cwestiwn i’r Gymdeithas ac i gyfieithwyr eraill, pa un ‘dych chi
> wedi’i dicio ar ffurflen y Cyfrifiad, wrth son am Aelodaeth Cymdeithas
> Cyfieithwyr Cymru:
>
> “Cymwysterau proffesiynol (er enghraifft addysgu, nyrsio, cyfrifyddiaeth)”
>
> ynteu
>
> “Cymwysterau galwedigaethol/cysylltiedig a gwaith arall”
>
>
>
> Nid oedd y llinell gymorth yn medru dweud wrthyf beth yw’r gwahaniaeth.
>
>
>
> Gyda llaw, dyma berl o’r neges wedi’i recordio:
>
> “Dyma rai cwestiynau y galla i eich helpu chi a^”
>
>
>
> Pob hwyl ar y gwaith,
>
>
>
> Ann
|