Annwyl bawb,
Mae nifer ohonoch wedi gofyn a allwn ailadrodd seminarau CAT Cymru yn
ardal Caerdydd ar gyfer cyfieithwyr y de-ddwyrain.
Rydym wedi trefnu felly, drwy garedigrwydd Adran y Gymraeg, Prifysgol
Caerdydd, i wneud gweithdy yn cynnwys nifer o'n sesiynau mwyaf
poblogaidd yng Nghaerdydd ddydd Gwener yma. Mae'r manylion isod, ac mae
croeso i bawb fynychu. Gyrrwch ebost ataf os ydych am ragor o fanylion.
Delyth
Gweithdy Technoleg Cyfieithu
Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Dydd Gwener, y 4ydd o Fawrth
11 y bore – 1 y prynhawn
CROESO CYNNES I GYFIEITHWYR PROFFESIYNOL, MYFYRWYR, AC UNRHYW UN ARALL
SYDD Â DIDDORDEB MEWN TECHNOLEG CYFIEITHU I’R GWEITHDY HWN
11.00 Gwahanol Gyweiriau Iaith: Delyth Prys
11.30 Codau iaith a localau: David Chan
12.00 Hollti Cofion Cyfieithu: Delyth Prys
12.30 Arddangos set newydd o offer Cof Cyfieithu*: David Chan
*Rhoddir cof bach gyda rhaglen cof cyfieithu Omega T, gwirydd sillafu
Cymraeg, geiriadur termau a chof cyfieithu parod ynddo am ddim i
fynychwyr y gweithdy.
Mae’r gweithdy yn rhan o broject CAT Cymru, a noddir gan gynllun ERDF
Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
|