Mae'n biti bod Outlook wedi mynd, o'n i'n gwneud yn iawn efo hwnna.
Windows Mail yn wael iawn. Ac mae pob rhaglen ebost erbyn heddiw hyd y
gwela i yn cymryd eich bod ar-lein drwy'r amser sy'n ei gwneud yn anos
gwneud pethau ar eich cyfrifiadur 'lleol' - mae pob dim yn y "cwmwl". Grrr!
Geraint
On 02/01/2015 12:03, Ann Corkett wrote:
> Cwestiwn arall - symlach, gobeithio - ynghylch Thunderbird.
> Pan ddefnyddiwn i Outlook, 'roeddwn wedi cysylltu Cysill a'r rhaglen a
> medru gwirio negeseuon 'in situ'. Erbyn hyn, rhaid eu trosglwyddo i
> Word, sy'n rhwystr os bydd rhywun yn ddiog. Oes modd trefnu gwirio
> negeseuon yn Thunderbird?
>
> Diolch,
>
> Ann
> On 02/01/2015 09:55, Geraint Lovgreen wrote:
>> Helo bawb a Blwyddyn Newydd Dda!
>>
>> Dwi wedi troi at raglen e-bost Mozilla Thunderbird ar ôl cael
>> problemau gyda fy hen raglen. Mae'r rhaglen ar gael mewn sawl iaith
>> yn cynnwys Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Basgeg ond nid yn Gymraeg,
>> sydd yn ddiffyg anarferol y dyddiau hyn. Mae 'na fodd i gyfieithu'r
>> rhaglen drwy ddilyn dolen 'localisation' ond mae'r holl broses yn
>> edrych braidd yn annealladwy i mi. Petai rhywun sy'n dallt
>> cyfrifiaduron yn gallu cychwyn y broses mi fyddwn yn fodlon cyfrannu
>> at y gwaith cyfieithu. Mae Mozilla Firefox gen i ac mae hwnnw'n
>> Gymraeg, felly pam ddim Thunderbird.
>>
>> Geraint
>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8854 - Release Date:
>> 01/02/15
>>
>
|