Prynhawn da,
Oes cyfieithiad ar gyfer 'StreetsAhead', sef ymgyrch yn ymwneud â Diwrnod Cenedlaethol Diogelwch Personol 2013. Os na, a ddylid cyfieithu 'StreetsAhead'? Mae 'StreetsAhead' mewn arwydd stryd ar y daflen rwy'n cyfieithu. Hefyd ar y daflen mewn arwyddion stryd, mae "PlanAhead", "ThinkAhead", "LookAhead" a "GoAhead", felly byddai'n edrych yn rhyfedd pe bawn i'n cyfieithu pob dim arall ond gadael 'StreetsAhead' mae'n siŵr? Beth yw barn pawb arall am hyn?
Mae 'StreetsAhead' yn ymwneud â diogelwch ar y strydoedd.
Mae'r daflen a'r poster i'w gweld (yn Saesneg) ar wefan 'National Personal Safety Day'.
Cofion,
Meinir
|