Mae hyn yn ymwneud a syniadau newydd llywodraeth San Steffan ynghylch
cynlluniau pensiwn, fel - os deallaf yn iawn - y bydd pobl nad ydynt
wedi bod mewn cynllun pensiwn yn hir cyn symud i swydd newydd yn medru
mynd a^'r arian efo nhw i chwyddo eu cyfraniadau i'w pensiwn yn y swydd
nesaf. Awgryma Bruce y dylwn ddefnyddio "cronfeydd bychain" ond mae gen
i deimlad y bydd pawb sy'n trafod y mater ar lafar yn dilyn y Saesneg a
defnyddio "potiau bychain/bach". Ydy'r mater yn cael ei drafod yn y
Gymraeg eto? Beth yw'ch barn chi?
Diolch,
Ann
|