Wn i ddim a yw hyn o gymorth, ond y mae yna "Trinity Well" (CGC SJ 204415 14226) ac "Abbey Well" (SJ 21164 14368) gerllaw, yn ymyl y Geuffordd, ychydig i'r gorllewin. Efallai y ceir rhagor o wybodaeth yng nghyfrol Eirlys Gruffydd ynghylch ffynhonnau sanctaidd y canolbarth (Cyfres Llafar Gwlad), neu yn "The Holy Wells of Wales" Francis Jones.
|