Pwynt teg iawn, Geraint.
Ond defnydd ar gyfer gweithwyr ieuenctid yw hwn ac mae'n sôn am y math o iaith i'w defnyddio yn y sesiynau gyda'r bobl ifanc. Gall y gweithiwr ddarllen y canllawiau Cymraeg a chynnal y sesiynau yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
"Use the word partner instead of girl or boyfriend."
"Defnyddiwch air sy'n cyfeirio at fechgyn a merched e.e. cariad neu partner, yn hytrach na geiriau fel "wejen/sboner / girlfriend/boyfriend".
(Wps! hir braidd)
Dw i ddim yn gwybod i ba raddau fyddai pobl ifanc yn dweud "wejen/sboner" beth bynnag - os oedden nhw'n mynd mas o ffasiwn 40 mlynedd yn ôl - ond dydw i ddim eisiau cynnwys y geiriau Saesneg yn unig!
Ydi hynna'n gwneud synnwyr?
Cofion
Siân
On 2012 Awst 21, at 1:18 PM, Geraint Lovgreen wrote:
> Dwi ddim yn meddwl bod angen y frawddeg yn y fersiwn Cymraeg o gwbl. Sôn am gariad neu bartner fysa rhywun yn Gymraeg beth bynnag, heb wahaniaethu ar sail rhyw, tra bod Saesneg yn fwy tueddol o gyfeirio at boyfriend neu girlfriend. (Dwi'n cymryd mai awydd i beidio gwahaniaethu ar sail rhyw/ tuedd rywiol sydd yma).
>
> Mae "wejen/sboner/fodan" yn llawer mwy 'slangy' na girlfriend/boyfriend, a byddai'n darllen fel petaech yn trio stopio pobol siarad mewn slang. Nid dyna'r bwriad yn y gwreiddiol.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 21, 2012 1:04 PM
> Subject: Re: partner
>
>
> Diolch. Ie, ond falle y byddai'n rhaid dweud "Defnyddiwch y geiriau "cymar", "partner" neu "cariad" yn lle "wejen/sboner/fodan"" gan fod "partner" a "cariad" dipyn yn fwy cyffredin ar lawr gwlad. Dw i ddim yn gwybod a fyddai "cymar" yn taro deuddeg mewn gwaith addysg rhyw "ar y stryd".
>
> Newydd gofio bod "girlfriend/boyfriend" yn cael eu defnyddio yn gyffredin ym Mhencader pan o'n i'n fach. "Wejen/sboner" yn cael eu cyfrif damed bach yn hen ffasiwn / coman efallai. Maen nhw'n swnio'n chwithig iawn i mi erbyn hyn.
>
> Diolch
>
> Siân
>
>
>
> On 2012 Awst 21, at 9:53 AM, Felicity Roberts [afr] wrote:
>
>> Beth am 'cymar'?
>>
>> Felicity
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>> Sent: 21 August 2012 08:33
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: partner
>>
>> Darn am addysg rhyw yn y gymuned i'w ddefnyddio ledled Cymru. Sôn am fod yn gynhwysol:
>>
>> "Use the word partner instead of girl or boyfriend."
>>
>> Ydw i'n dweud "Defnyddiwch y geiriau "partner" neu "cariad" yn lle "wejen/sboner/fodan" (oes gair gogleddol am sboner?) - 'ta ydw i'n hepgor y frawddeg?
>>
>> Diolch
>>
>> Siân
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5212 - Release Date: 08/20/12
|