Soniais i wrth Bruce amser maith yn ol, sut y byddwn i'n rhoi X a'i chymar/
Y a'i gymar ar wahoddiadau Cinio Cadeirydd Ceredigion, ac fe'm hatgoffodd
fod gan "cymar" fersiwn benywaidd, "cymhares". O diar!
Ond mae'n biti bod y gair yn mynd i ebargofiant - bydd Bruce bob amser yn
dweud mai partner mewn busnes neu wrth chwarae cardiau dylai "partner" fod,
a byddai hynny'n osgoi camddealltwriaeth weithiau. 'Rwy'n amau bod geiriau
fel "partner" a "person" wedi ymledu am ei bod nhw mor hawdd i'w defnyddio
efo dysgwyr.
Ann
Original Message:
-----------------
From: Sian Roberts [log in to unmask]
Date: Tue, 21 Aug 2012 13:04:25 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: partner
Diolch. Ie, ond falle y byddai'n rhaid dweud "Defnyddiwch y geiriau
"cymar", "partner" neu "cariad" yn lle "wejen/sboner/fodan"" gan fod
"partner" a "cariad" dipyn yn fwy cyffredin ar lawr gwlad. Dw i ddim yn
gwybod a fyddai "cymar" yn taro deuddeg mewn gwaith addysg rhyw "ar y
stryd".
Newydd gofio bod "girlfriend/boyfriend" yn cael eu defnyddio yn gyffredin
ym Mhencader pan o'n i'n fach. "Wejen/sboner" yn cael eu cyfrif damed bach
yn hen ffasiwn / coman efallai. Maen nhw'n swnio'n chwithig iawn i mi
erbyn hyn.
Diolch
Siān
On 2012 Awst 21, at 9:53 AM, Felicity Roberts [afr] wrote:
> Beth am 'cymar'?
>
> Felicity
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 21 August 2012 08:33
> To: [log in to unmask]
> Subject: partner
>
> Darn am addysg rhyw yn y gymuned i'w ddefnyddio ledled Cymru. Sōn am fod
yn gynhwysol:
>
> "Use the word partner instead of girl or boyfriend."
>
> Ydw i'n dweud "Defnyddiwch y geiriau "partner" neu "cariad" yn lle
"wejen/sboner/fodan" (oes gair gogleddol am sboner?) - 'ta ydw i'n hepgor y
frawddeg?
>
> Diolch
>
> Siān
--------------------------------------------------------------------
mail2web.com - Microsoft® Exchange solutions from a leading provider -
http://link.mail2web.com/Business/Exchange
|