Dyma nodyn sy'n mynd yn ol mor bell fel na allaf gofio ai fi neu rhywun
arall a'i luniodd:
"Mae sawl cyfieithiad ar gyfer "risk". Mae hyn yn dibynnu ar y cyd-destun a
pha mor ffurfiol yw'r ddogfen. Erbyn hyn, mae'n debyg mai "asesiad risgiau"
a ddefnyddir gan lawer ar gyfer "risk assessment". Bu'n rhaid imi gyfieithu
dogfen ... ar Iechyd a Diogelwch, lle 'roedd diffiniad manwl o'r gwahaniaeth
rhwng "hazard"/perygl (rhywbeth a all ddigwydd - possibility) a
"risk"/bygythiad (rhywbeth sy'n debyg o ddigwydd- probability). Bu cryn
trafod cyn dewis y termau Cymraeg a chafodd y defnydd o'r termau Cymraeg a
Saesneg ei egluro ar ddechrau'r ddogfen. Anodd iawn yw cadw at unrhyw fath o
gysondeb wrth ddod ar draws ymadrodd megis hwn, o ddogfen gan sefydliad
arall, "assess the level of risk which those hazards present". Wrth gofio
bod rhywun yn gorfod cyfieithu geiriau megis "threat", "danger", ayb. hefyd,
mae'n debyg mai diffinio termau sydd orau os yw hi'n bwysig bod yn fanwl
gywir mewn dogfen arbennig."
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 22 February 2012 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hazard
Dim ateb. Dim ond nodi bod yr HSE yn defnyddio 'perygl' ar gyfer 'hazard'
http://www.hse.gov.uk/pubns/welsh/indg244w.pdf
http://www.hse.gov.uk/pubns/indg244.pdf
2012/2/22 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> Gwaith i blant ysgol -
> Gofynnir cwestiwn: "What is a hazard?"
>
> Mae'r diffiniad hwn yn digwydd cynt:
>
> "Hazard - an object or situation that could potentially hurt someone."
>
> Sut mae gwahaniaethu rhwng "hazard" a "danger"?
>
> Diolch
>
> Siān
|