Yn ddelfrydol, mae'n siwr mai defnyddio dyfyniadau Cymraeg gwreiddiol
sy'n dweud yr un peth fyddai'r ateb.
Rhywbeth fel "Ceffyl da 'di 'wyllys" ?
Siân
On 13 Chwef 2012, at 11:08, Rhodri Owain wrote:
> Bore da bawb,
>
> Dwi mewn ychydig o benbleth y bore ma ac mae arna'i angen barn y
> cylch os gwelwch yn dda.
>
> Mae gennyf bosteri i'w cyfieithu sy'n ceisio annog myfyrwyr i
> sefyll yn etholiadau'r Undeb Myfyrwyr i fod yn swyddogion y
> flwyddyn nesaf. Mae yna dri phoster a'r peth amlyca' ar bob un
> ohonynt yw dyfyniad o'r llyfr 'Great Minds, Great Quotes'. Fy
> ngreddf yw eu cyfieithu gan eu bod mor amlwg ar y posteri, ond mae
> Arddulliadur y Cynulliad yn argymell i beidio cyfieithu dyfyniadau
> o ddeunyddiau sydd wedi'u cyhoeddi. Felly a ddylwn eu gadael yn y
> Saesneg? Dyma'r dyfyniadau:
>
> “Believe in yourself and all that you are. Know that there is
> something inside that is greater than any obstacle”
> C. Larson, Great Minds, Great Quotes
>
>
> “The world is full of willing people, some willing to work, the
> rest willing to let them”
> R.Frost, Great Minds, Great Quotes
>
>
> “If you don’t go after what you want, you’ll never have it. If you
> don’t ask, the answer is always NO. If you don’t step forward,
> you’re always in the same place”
> N. Roberts, Great Minds, Great Quotes
>
> Beth yw barn y cylch ar hyn?
>
> Diolch ymlaen llaw,
> Rhodri
|