Mae'r gair 'namyn' yn air bach twt ac mae 'cant a deugain namyn saith'
yn swnio'n llawer gwell i mi na 'chant tri deg trydydd'. Mae'n
golygu, wrth gwrs, bod rhaid gwneud syms ar ein traed ond mae'n ffordd
go lew o gadw'r meddwl yn heini. Mantais arall i atgyfodi hen eiriau
- ar lafar!
Hwyl
Eluned
2012/2/13 Dewi Williams <[log in to unmask]>:
> Helo Iwan,
> Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg ar gyfer Gwaith a Swyddfa, Ysgol, Coleg a
> Chartref, J. Elwyn Hughes, (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, GOMER, 2006)
> Unedau 11.7 - 11.9
>
>
> 40th pedwar degfed
> 41st pedwar deg unfed
> 42nd pedwar deg eilfed
> 43rd pedwar deg trydydd / trydedd
> 44th pedwar deg pedwerydd / pedwaredd
> 45th pedwar deg pumed
> 46th pedwar deg chweched
> 47th pedwar deg seithfed
> 48th pedwar deg wythfed
> 49th pedwar deg nawfed
> 50th pum degfed
> 99th naw deg nawfed
> 133rd cant tri deg trydydd / trydedd
>
> Dim cysylltnodau
>
> Dewi
> ________________________________
> Date: Mon, 13 Feb 2012 15:50:44 +0000
> From: [log in to unmask]
>
> Subject: Erchyll Broblem y Trefnolion
> To: [log in to unmask]
>
>
> Codi trafodaeth - trafodaeth sydd wedi bod yn barod o bosib' - be' wneir
> â'r rhein?
>
> Mi wn yn iawn be' ydy' hen ddull. Yn gam neu'n gymwys hyd yn oed wrth siarad
> pob dydd mae'n anodd deud fod rhywun yn yn "drydydd ar ddeg ar hugain wedi'r
> cant" yn hytrach na deud bod rywun yn "hyndryd and thyri thyrd". (Mae hyn yn
> rhannol am fod yr iaith wedi dirywio, a'r hen ddull cyfri' yn cael ei
> ddefnyddio'n rhannol yn unig). Mae deud "safle cant tri deg tri" yn swnio'n
> blastig, ond wedyn mae "cant tri-deg-trifed" yn dra chwithig. Wrth
> ddefnyddio "-fed" mae'n haws hefo rhai rhifau.2,3,4 ydy'r mwyaf trwsgl yn
> enwedig am fod pedwar yn ddeusill. Mae "pedwar-deg-pedwarfed" yn o anodd i'w
> dreulio tra "pedwar-deg-wythfed" yn well. Y rheswm am hynny mae'n siŵr yw
> mai "-ydd" fyddai hefo 3 a 4. A ddylid cynnig llunio "pedwar-deg-pedwerydd"
> ? - ydy mae hwnna'n swnio'n gloff ond fymryn yn well na
> "phedwar-deg-pedwarfed". Ond beth am 2? "Pedwar-deg-daufed/deufed"
> "pedwar-deg-ail" - swnio'n ddifrifol. Ynteu dychwelyd i gragen buryddol
> ddiogel, a theimlo bod rhywun yn siarad fel llyfr ? Problemau iaith sy'n
> dirywio ?
>
> Cyfieithu traethiadau am rasys sydd wedi peri gyrru'r druth hon. (Nid wyf yn
> disgwyl ateb terfynol.)
|