Dyna'r cyfan 'roeddwn i'n ei olygu - rhaid gwahaniaethu rhwng enw a theitl
sy'n hollol ddisgrifiadol. Unwaith eto, 'dw i ddim wedi darllen y neges yn
ddigon pwyllog, ond gwelaf rwan fod Matthew eisoes wedi gwneud y pwynt wrth
son am Gwmni Drama Licyris Olsorts = 'Licyris Olsorts Drama Company'
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 10 February 2012 16:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau cymdeithasau
Enw ydi'r Fran Wen - does dim byd o'i le ar Fran Wen Drama Company mewn
dogfen Saesneg.
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 10, 2012 4:14 PM
Subject: Re: enwau cymdeithasau
'Roeddwn i ar fin dweud, "Clyw, clyw!", ac mae'n ddigon teg o ran enwau
syml, disgrifiadol, ond sut hoffech chi weld erthygl yn cyfeirio at "The
White Crow Drama Company"? Ac fel y mae achosion yng Nghaerdydd lle mae enw
un stryd yn digwydd bod yn gyfieithiad enw stryd gwahanol, mae'n bosibl bod
e.e. Clwb Gwerin a Folk Clwb yn cydfodoli yn yr un dref. Yn bosibl, nid yn
debygol, ond mae'n rhywbeth y dylid cadw mewn golwg.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
[auc]
Sent: 10 February 2012 15:00
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: enwau cymdeithasau
Dw i ddim yn gweld y broblem - fyddai'r Saesneg byth yn gadael 'Cymdeithas
Ffotograffiaeth Noethlymunwyr Gogledd Ynys yr Iâ' yn yr Islandeg. Pe bawn
i'n cyfieithu darn i'r Saesneg yn sôn am Gymdeithas Lenyddol Capel y Garn fe
fyddwn i'n rhoi 'Capel y Garn Literary Society' ac am Gwmni Drama Licyris
Olsorts fe roddwn i 'Licyris Olsorts Drama Company'. A gan fy mod i'n gwneud
hynny i'r Saesneg, paham na fyddwn i'n gwneud yr un peth wrth gyfieithu'r
ffordd arall? Mae'r Gymraeg gystal pob ticyn ag unrhyw iaith arall: Clwb
Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Chelsea; Cylch Gwau Coleg y Drindod, Caergrawnt;
Cymdeithas Rygbi Gogledd Corea; Clwb Dawnsio Morris Efrog Newydd - dyna beth
mae ieithoedd go iawn yn ei wneud.
Er fy mod i'n gwerthfawrogi beth mae Eurwyn yn ei ddweud, dw i ddim yn credu
mai dewis gwleidyddol yw cyfieithu enwau; mae'n ddewis niwtral, arferol i
unrhyw iaith. Y dewis gwleidyddol yw peidio â'u cyfieithu: nid yw'r enw yn
ein hiaith ni yn 'swyddogol' felly rhaid cadw'r Saesneg.
Wrth gwrs, mae gan bob clwb a chymdeithas yr hawl i arddel enw ym mha bynnag
iaith fel y gwelant yn dda - o fewn y clwb neu'r gymdeithas - ond ni allent
byth â rheoli ieithoedd cyfan. Does gan Grwp Celf Rhaeadr Gwy ddim gronyn o
awdurdod dros y Gymraeg - heblaw o fewn eu cylch eu hun - a phe byddent yn
comisiynu gwaith cyfieithu fe allent fynnu peidio ag arddel enw Cymraeg yn y
gwaith hwnnw. Ond ni allen nhw fynnu bod iaith gyfan yn peidio â rhoi enw
arnynt. Croeso iddyn nhw ddod fan hyn â rhoi cynnig arni!
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 10 Chwefror 2012 12:29
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: enwau cymdeithasau
Diddorol!
Efallai bod syniad yma am weithdy gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru - "A oes
ar gyfieithwyr 'gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a chynyddu'r defnydd o'r
iaith Gymraeg'? Os felly, sut?"
Os ydi'r Gymdeithas ei hunan wedi penderfynu peidio â chael enw Cymraeg - ac
mae'r peth yn amlwg wedi'i drafod yn ôl a ddywedwch chi
- onid ei braint hi yw hynny?
Pe bawn i'n gweithio i'r Grwp ei hunan, mae'n siwr y byddwn yn gofyn "Oes
gennych chi enw Cymraeg? Os nad oes, a fyddech chi'n hoffi i mi gynnig un?"
ond dim ond cyfeiriad at y Grwp mewn dogfen gan gorff arall yw hwn.
Cofion
Siân
On 10 Chwef 2012, at 12:13, Eurwyn Pierce Jones wrote:
> Mae yna arlunwyr sy'n siarad Cymraeg yn byw yng nghyffiniau Rhaeadr
> Gwy, oedd yn arfer bod yn aelodau o'r grwp hwn; ac un rheswm pam
> iddynt beidio ag ail-ymaelodi, fel rydw i'n deall, oedd am nad oedd
> enw Cymraeg iddo. Mae'r grwp hwn yn arfer defnyddio gwasanaeth
> cyfieithydd ar-y-pryd o bryd i'w gilydd (h.y. pan gynigir y gwasanaeth
> iddyn nhw am y nesaf peth i ddim tâl!), ar ofyn rhai arlunwyr sy'n
> rhan o'r grwp ei hun ac sy'n awyddus i ddangos eu cefnogaeth i'r iaith
> Gymraeg.
>
> Mewn amgylchiadau felly, mi fyddwn i'n meddwl mai da o beth fyddai
> annog y
> grwp i arddel enw'r grwp yn y naill iaith yn ogystal â'r llall.
> Wedi'r
> cyfan, yng Nhymru y mae'r dref hyfryd hon wedi ei lleoli, ac ar ffin y
> dref mae yno raeadr godidog ar yr afon Gwy - oddi wrth yr hwn y mae'r
> dref ei hun wedi cael ei henwi; ac yn wir, y mae'r sillafiad
> Seisnigaidd ar y lle yn warth i'r iaith Gymraeg. At hynny, gan nad
> sefydliad ar gyfer y di- Gymraeg yn unig ydyw'r grwp celf dan sylw,
> pam gwarafun iddo gael enw Cymraeg cywir.
>
> Dyma, yn fy marn i, pryd y mae'r cyfieithydd yn fwy na dim ond gwas
> cyflogedig sy'n gwneud darn o waith just i ennill ei fara/bara 'menyn;
> yn hytrach, mae arno fo / arni hi gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a
> chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg (yn y cywair mwyaf graenus a
> defnyddiol) ym mhob cyd-destun dan haul, pryd bynnag y byddo hynny o
> fewn ei (g)allu.
>
> Eurwyn.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Sian Roberts
> Sent: 10 February 2012 09:20
> To: [log in to unmask]
> Subject: enwau cymdeithasau
>
> Mae'n siwr bod hyn wedi'i drafod o'r blaen ond beth sydd orau i'w
> wneud ag enwau cymdeithasau yng Nghymru sydd heb enw Cymraeg
> swyddogol?
>
> "Rhayader Art Group" sydd dan sylw. Dwi'n cael fy nhemtio i'w adael
> yn Saesneg am mai dyna yw ei enw.
>
> Siân
|