Does dim rhaid i emoticon fod yn wyneb. Mae cannoedd o 'emoji' (
emoticons gyda'u gwreiddiau mewn ffonau Siapaneiaidd ) wedi cael eu
ychwanegu at Unicode yn ddiweddar - ac mae'r rheini yn cynnwys pethau
fel 'dyn busnes yn moesymgrymu i ddangos edifeirwch'.
2011/8/22 Eleri James <[log in to unmask]>:
> Mae rhestr o dermau ffonau symudol ar gael ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yma ar ffurf pdf:
> http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/20110304%20d%20dg%20termau%20ffonau%20symudol.pdf
> ac yma mewn cronfa Excel:
> http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20110308+D+DG+Termau+Ffonau+Symudol+y+Bwrdd.xls.
>
>
> 'Gweplun' sydd am 'emotiocon' ac am 'smiley' gan eu bod yr un fath yn ôl ein hymchwil ni yma.
>
> Hwyl,
>
> Eleri
>
> Dr Eleri Hedd James
>
> Swyddog Datblygu Uned Safoni Termau a Chyfieithu/
> Terminology Standardization and Translation Unit Development Officer
> Bwrdd yr Iaith Gymraeg/Welsh Language Board
> Ffôn/Tel: 029 2087 8057
> Ffacs/Fax: 029 2087 8001
> e-bost/email: [log in to unmask]
>
> *****
> Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
>
> *****
> Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the Welsh Language Board, any constituent part or connected body.
>
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 22 Awst 2011 17:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: emoticons/smileys etc termau negeseua gwib!!
>
> Newydd holi ar Twitter.
>
> Nic Dafis yn dweud mai ei fathiad difeddwl e oedd "gwenoglun" - wrth
> gyfieithu phpbb a bod phpbb yn defnyddio "smileys" am "emoticons"
>
> Siân
>
> On 22 Awst 2011, at 16:56, Dafydd Tomos wrote:
>
>> Sgrifennodd Sian Jones:
>>>
>>> Mae emoticons yn wynebau gyda phob mathau o ystumiau arnyn nhw -
>>> dydy gwenogluniau ddim yn disgrifio'r rhain yn ddigonol.
>>
>> Ond fe ddaeth gwenoglun i feddwl pob math o 'eiconau' ar maes-e.
>> (a tipyn o running joke.. "Hei Nic, mae angen gwenoglun ar gyfer X")
>>
>> Wedi'r cyfan, dim ond un neu falle dau eicon yw smiley :) neu :-)
>> allan o'r cannoedd o emoticons.
>
|