Mae 'gwellaif' yn gwneud i fi feddwl am declyn gyda'r colyn ar un pen
sy'n cael ei wasgu yn y canol a 'siswrn' am declyn gyda'r colyn yn y
canol. Mae'n debyg nad yw'r byd go iawn mor gyson. Wedi gweld 'siswrn
gardd' mewn llyfrau ac wedi ei glywed. Wastad yn cael trafferth gyda
termau ar gyfer pethau fel gefeiliau
2011/8/23 Gareth Jones <[log in to unmask]>:
> Dwi newydd weld enghraifft o siswrn gardd.
>
> From: Rhian Jones
> Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:27 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: shears
>
> Sori Geraint, dw i di edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a falle bo ti’n
> iawn! ... ‘Used also for any kind of shears, e.g. for cutting hedges; but
> these are always called ‘siswrn’ by farmers;’ Fedra i ddim peidio meddwl ei
> bod hi’n cymryd tipyn o amser i ti dorri’r gwrych!
> Rhian
>
> From: Geraint Lovgreen
> Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:14 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: shears
>
> Gwellau, neu gwelle ar lafar, oedd gennon ni adre. Dwi'n meddwl mai gwellaif
> ydi'r gair iawn ond mae digon o enghreifftiau o gwellau wrth Wglo.
>
> ----- Original Message -----
> From: Gareth Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:02 PM
> Subject: shears
>
> Siswrn mawr i dorri gwrych sydd gen i dan sylw. Siswrn barbro, chwedl fy
> nhad. Fyddai ‘siswrn barbro’ yn addas i’w gynnwys mewn taflenni gwaith i
> fyfyrwyr garddwriaeth? Ydy o’n rhy dafodieithol?
|