Gwn am un cyfieithydd, heb radd, wnaeth gais am swydd fel cyfieithydd
gyda'r Cynulliad. Roedd y disgrifiad swydd a'r meini prawf yn gofyn am
radd yn y Gymraeg ond roedden nhw'n fodlon derbyn bod aelodaeth
gyflawn yn gyfwerth a gradd ac yn ateb y meini prawf ar gyfer y swydd
honno.
Muiris
2011/3/28 Carolyn <[log in to unmask]>:
> Wnes i ddim ticio'r un o'r ddau gan feddwl nad oedd 'Aelodaeth' yn
> gymhwyster ond erbyn meddwl, bosib y dylai rhywun!
>
>
>
> ________________________________
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
> Anfonwyd/Sent: 28 Mawrth 2011 11:47
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Sut i ateb y Cyfrifiad
>
>
>
> Dim ond cwestiwn i’r Gymdeithas ac i gyfieithwyr eraill, pa un ‘dych chi
> wedi’i dicio ar ffurflen y Cyfrifiad, wrth son am Aelodaeth Cymdeithas
> Cyfieithwyr Cymru:
>
> “Cymwysterau proffesiynol (er enghraifft addysgu, nyrsio, cyfrifyddiaeth)”
>
> ynteu
>
> “Cymwysterau galwedigaethol/cysylltiedig a gwaith arall”
>
>
>
> Nid oedd y llinell gymorth yn medru dweud wrthyf beth yw’r gwahaniaeth.
>
>
>
> Gyda llaw, dyma berl o’r neges wedi’i recordio:
>
> “Dyma rai cwestiynau y galla i eich helpu chi a^”
>
>
>
> Pob hwyl ar y gwaith,
>
>
>
> Ann
|