Os ydy system yn rhedeg yn dda nawr, gyda hanes hir o rhedeg yn dda a
didrafferth, a dim rheswm i gredu y bydd unrhywbeth yn debygol o fynd o'i le yn y
tymor byr byddai'n deg dweud bod y system yn ddibynadwy. Ar yr un pryd mae'n
bosib bod y system yn rhedeg 'at risk' am nad oes modd prynnu'r caledwedd dim
mwy, am fod rhai o'r bobl sy'n gyfarwydd a'r system wedi symud ymlaen, am fod
rhai o'r fersiynau o'r cymhwysiadau sy'n cael eu defnyddio yn hen a heb contract
cynhaliaeth. O dan amgylchiadau o'r fath gall cwmni penderfynnu comisiynnu system
newydd fydd yn barod mewn blwyddyn a pharhau a'r hen system, sy'n ddibynadwy ond
yn rhedeg 'at risk', yn y cyfamser. Rwy'n credu bod Geraint yn llygad ei le
ynglyn a'r elfennau coll o'r ymadrodd. Y cysyniad yw bod pobl yn deall y risgiau
ac wedi eu derbyn dan yr amgylchiadau.
On Tue 16/03/10 11:21 , Matthew Clubb [log in to unmask] sent:
> Tybed ym mha fodd y gellir dweud bod sustem yn ddibynadwy os yw hi'n bosib
> ybydd problemau yn codi?
>
> 'Annibynadwy' y byddwn ni'n ei ddefnyddio pan fydd y bobl gyfrifiadura
> ymayn wara รข'r sustem. Mae 'dan fygythiad' neu 'mewn perygl' (neu 'dan
> risg' amwn i) yn swnio yn gyffrous iawn, fel petai rhyw argyfwng mawr neu fod
> rhywymosodiad ar droed.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [[log in to unmask]] Ar ran Gwen RiceAnfonwyd/Sent:
16 Mawrth 2010 10:31
> At/To: [log in to unmask]: at risk
>
> Cyd-destun technegol pan fo gwasanaeth cyfrifiadurol yn rhedeg "at
> risk".Fe'i cyfieithwyd gan gwmni allanol fel "yn annibynadwy", ond
> dyw'rarbenigwyr technegol ddim o'r farn bod hwn yn gyfieithiad addas ac
> maenteisiau barn am "mewn perygl" (neu, wrth gwrs, derm cwbl wahanol).
> Oes ganunrhyw un sy'n deall y pethau 'ma farn? Tybed a fyddai "dan
> risg" neurywbeth tebyg yn datrys hyn?
>
> O ran ystyr, does dim perygl fel y cyfryw ac, er y gallai problem /
> risggodi, mae'n bosib iawn na fydd y system yn annibynadwy o gwbl.
>
> Diolch yn fawr ymlaen llaw.
>
> Gwen
>
>
>
|