Rhywbeth arall yn yr un maes yw defnyddio 'iaith Gymraeg' i gyfieithu 'Welsh
language' Dw i ddim yn gweld bod angen 'iaith' yn Gymraeg - mae Cymraeg yn
golygu'r iaith tydi? Yr unig reswm y defnyddir 'language' yn Saesneg yw er
mwyn gwahaniaethu rhwng 'Cymreig' a 'Cymraeg'.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 09 Chwefror 2010 15:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Seisnig
Diolch - ddois i ar draws rhywbeth yn sôn am fwydydd Cymreig yn
ddiweddar - ond doedden nhw ddim yn Gymreig - dim ond eu bod wedi'u
tyfu/prosesu yng Nghymru.
Mae hynna'n help
On 9 Chwef 2010, at 11:49, D.Prys wrote:
> Cefais gais yn ddiweddar i drafod yr ansoddair 'Seisnig' . Y
> cwestiwn oedd "ydy e'n iawn defnyddio'r ansoddair 'Seisnig' i
> ddynodi pobl e.e. cyfansoddwr Seisnig, actor Seisnig, ffotograffydd
> Seisnig neu oes rhaid i ni ddefnyddio 'cyfansoddwr o Loegr' ac ati?"
>
> Dyma'r ateb a roddais (rhag ofn iddo fod o ddiddordeb i aelodau'r
> cylch):
>
> "Darllen y gosodiad ar ddiwedd llyfr Gwen Pritchard Jones Dygwyl
> Eneidiau ei bod hi wedi seilio'r prif gymeriad ar 'filwr Albanaidd'
> wnaeth i mi benderfynu'n derfynol mai cyfieithiad i'r Gymraeg oedd
> rhannau (o leiaf) o'r nofel honno. 'Milwr o'r Alban' neu 'milwr o
> Albanwr' fyddai'r disgrifiad 'naturiol' yn Gymraeg. Byddwn i'n
> dadlau, felly, na ddylid defnyddio 'Seisnig' ond i gyfeirio at
> rhywbeth cynhenid Seisnig.
>
> "Yng Ngeiriadur yr Academi, cewch chi 'an English poet - bardd
> Saesneg, (if an Englishman) bardd o Sais'. Efallai y byddai hi
> wedi bod yn gliriach petai'r cofnod wedi manylu ymhellach ac wedi
> dweud 'an English-language poet' o flaen 'bardd Saesneg'. Gall
> bardd Saesneg fod yn Gymro, yn Wyddel, yn Sais (wrth gwrs) neu
> berthyn i unrhyw genedl dan haul.
>
> "Ystyr 'cyfansoddwr Seisnig', 'actor Seisnig' a 'ffotograffydd
> Seisnig', felly, yw un sy'n cyfansoddi, yn actio neu'n tynnu
> ffotgraffau mewn dull Seisnig, ac nid Sais neu Saesnes o
> angenrheidrwydd. Gwell dweud 'y cyfansoddwr o Sais' neu 'y Sais o
> gyfansoddwr' neu 'y cyfansoddwr o Loegr' (ond rhaid cofio y gallai
> 'cyfansoddwr o Loegr' beidio â bod yn Sais o waed coch cyfan)."
>
> Berwyn
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
>
> <eds017.vcf>
|