Rhywbeth arall yn yr un maes yw defnyddio 'iaith Gymraeg' i gyfieithu 'Welsh language' Dw i ddim yn gweld bod angen 'iaith' yn Gymraeg - mae Cymraeg yn golygu'r iaith tydi? Yr unig reswm y defnyddir 'language' yn Saesneg yw er mwyn gwahaniaethu rhwng 'Cymreig' a 'Cymraeg'. Carolyn -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts Anfonwyd/Sent: 09 Chwefror 2010 15:20 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Seisnig Diolch - ddois i ar draws rhywbeth yn sôn am fwydydd Cymreig yn ddiweddar - ond doedden nhw ddim yn Gymreig - dim ond eu bod wedi'u tyfu/prosesu yng Nghymru. Mae hynna'n help On 9 Chwef 2010, at 11:49, D.Prys wrote: > Cefais gais yn ddiweddar i drafod yr ansoddair 'Seisnig' . Y > cwestiwn oedd "ydy e'n iawn defnyddio'r ansoddair 'Seisnig' i > ddynodi pobl e.e. cyfansoddwr Seisnig, actor Seisnig, ffotograffydd > Seisnig neu oes rhaid i ni ddefnyddio 'cyfansoddwr o Loegr' ac ati?" > > Dyma'r ateb a roddais (rhag ofn iddo fod o ddiddordeb i aelodau'r > cylch): > > "Darllen y gosodiad ar ddiwedd llyfr Gwen Pritchard Jones Dygwyl > Eneidiau ei bod hi wedi seilio'r prif gymeriad ar 'filwr Albanaidd' > wnaeth i mi benderfynu'n derfynol mai cyfieithiad i'r Gymraeg oedd > rhannau (o leiaf) o'r nofel honno. 'Milwr o'r Alban' neu 'milwr o > Albanwr' fyddai'r disgrifiad 'naturiol' yn Gymraeg. Byddwn i'n > dadlau, felly, na ddylid defnyddio 'Seisnig' ond i gyfeirio at > rhywbeth cynhenid Seisnig. > > "Yng Ngeiriadur yr Academi, cewch chi 'an English poet - bardd > Saesneg, (if an Englishman) bardd o Sais'. Efallai y byddai hi > wedi bod yn gliriach petai'r cofnod wedi manylu ymhellach ac wedi > dweud 'an English-language poet' o flaen 'bardd Saesneg'. Gall > bardd Saesneg fod yn Gymro, yn Wyddel, yn Sais (wrth gwrs) neu > berthyn i unrhyw genedl dan haul. > > "Ystyr 'cyfansoddwr Seisnig', 'actor Seisnig' a 'ffotograffydd > Seisnig', felly, yw un sy'n cyfansoddi, yn actio neu'n tynnu > ffotgraffau mewn dull Seisnig, ac nid Sais neu Saesnes o > angenrheidrwydd. Gwell dweud 'y cyfansoddwr o Sais' neu 'y Sais o > gyfansoddwr' neu 'y cyfansoddwr o Loegr' (ond rhaid cofio y gallai > 'cyfansoddwr o Loegr' beidio â bod yn Sais o waed coch cyfan)." > > Berwyn > > -- > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar > unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, > rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a > gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i > hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn > Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu > bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu > 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn > nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract > rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa > Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately > and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you > must not use, retain or disclose any information contained in this > email. Any views or opinions are solely those of the sender and do > not necessarily represent those of the Bangor University. > Bangor University does not guarantee that this email or > any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless > expressly stated in the body of the text of the email, this email is > not intended to form a binding contract - a list of authorised > signatories is available from the Bangor University Finance > Office. www.bangor.ac.uk > > <eds017.vcf>