Ie, wel, mae'n dibynnu i raddau helaeth ar y testun. Mae cyfieithiadau sy'n
gorfod bod yn union, fanwl gywir, rhai meddygol neu gyfreithiol, e.e., yn rhwym
o gymryd rhagor o amser na llythyr syml. Os yw'r testun gwreiddiol yn
llawn "jargon", neu'n trafod dirgelion maes nad yw'r cyfieithwyr termau wedi'i
drin hyd yn hyn, gallwch fod wrthi am oriau. Gall cyfieithu slogan pum gair, hyd
yn oed, gymryd hanner awr. Dywed rhai fod tua 5,000 o eiriau'r diwrnod yn
gyfanswm da, ond wela'i ddim sut y gellid rhwymo neb i nifer ddyddiol benodol.
Afresymol fyddai hynny.
|